Mae’n rhaid i ni allu darparu ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â’r Saesneg, gan fod gennym gyfrifoldebau am yr amgylchedd ledled Cymru a Lloegr. Mynnwch wybod am ein Cynllun Iaith Gymraeg.
Mae Cymru yn aml wedi cael ei diffinio gan ei hiaith, sef 'y Gymraeg'. Mae'r Gymraeg yn iaith Geltaidd hynafol, sy'n perthyn yn agosaf at y Llydaweg a'r Gernyweg. Mae'n tarddu o'r iaith a siaradwyd ar draws y rhan fwyaf o Brydain yn yr oes Rufeinig. Fel y rhan fwyaf o ieithoedd mae ganddi lawer o eiriau benthyg, ond yn ramadegol, mae'n fwy gwahanol i'r Saesneg nag y mae Ffrangeg neu Almaeneg, er enghraifft.
Er nad yw pawb yng Nghymru'n siarad Cymraeg, yn ôl cyfrifiad 1991 roedd bron un o bob pump yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae rhannau o'r wlad lle mae'r iaith yn dominyddu, ac mae llawer o bobl sy'n cyfathrebu'n fwy hwylus yn y Gymraeg na'r Saesneg. Mae cefnogaeth helaeth i'r iaith, hyd yn oed ymhlith pobl nad yw'n ei siarad.
Ym 1993 cyflwynwyd Deddf yr Iaith Gymraeg, gan ofyn bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru'n cynnig yr un gwasanaeth yn y ddwy iaith. Bu'n rhaid iddynt lunio Cynllun Iaith Gymraeg, yn disgrifio sut byddent yn cyflawni hyn. Sefydlwyd corff statudol, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg, i gymeradwyo'r cynlluniau hyn ac i fonitro cydymffurfiad.
Ein cynllun iaith
Cafodd ein Cynllun Iaith Gymraeg ei ddiweddaru a'i gymeradwyo ym mis Mehefin 2007. Mae'n cyflwyno'n fanwl sut rydym yn cyflawni'n hymrwymiadau cyfreithiol ac yn cynnig gwasanaeth priodol i'r gymuned Gymraeg ei hiaith.