Gall ymatebwyr argyfyngau sifil danysgrifio i wasanaeth rhybudd llifogydd wedi'i dargedu ar-lein.
Mae sefydliadau ac unigolion eisiau ac angen pethau gwahanol oddi wrthym a'r gwasanaethau a ddarperir gennym, megis ein gwybodaeth rhybudd llifogydd. Rydym yn parhau i ddatblygu gwasanaethau newydd er mwyn ei gwneud hi mor hawdd a hyblyg â phosibl i sefydliadau gael mynediad at ein gwybodaeth.
Rydym yn darparu gwasanaeth rhybudd llifogydd wedi'i dargedu ar y we i ymatebwyr Deddf Argyfyngau Sifil Posibl. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu gwasanaeth wedi'i dargedu ac effeithlon i danysgrifwyr er mwyn iddynt fedru monitro eu hasedau sydd mewn perygl o lifogydd.
Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio?
Mae'r gwasanaeth yn gyrru hysbysiadau ebost ac yn arddangos rhybuddion llifogydd ar gyfer yr asedau a storwyd yn y cais gan y cwsmer. Gall 'asedau' fod yn swyddfa, depo, ysbyty, is-orsaf, gwaith trin, gorsaf bwmpio neu ffordd neu gyffordd bwysig ayyb.
Gall tanysgrifwyr i'r gwasanaeth:
- lanlwytho taenlen yn cynnwys manylion o’r asedau y dymunant eu monitro pan gyhoeddir rhybuddion llifogydd yn eu lleoliad
- cael ebost pan effeithir ar eu hasedau am y tro cyntaf gan Hysbysiad Llifogydd neu Rybudd Llifogydd, ac yna ebost pellach pan nad yw eu hasedau dan fygythiad mwyach
- sefydlu a chynnal defnyddwyr a thimau o fewn y system
- hidlo gwybodaeth yn seiliedig ar enw ased, math o ased, amser cyhoeddi a statws rhybudd
- cael mynediad at fanylion cyswllt ystafelloedd digwyddiadau ardal Asiantaeth yr Amgylchedd
- edrych ar fapiau sy’n dangos lleoliad yr asedau ynghyd ag ardaloedd hysbysiad llifogydd/rhybudd llifogydd a’r Map Llifogydd
I bwy mae'r gwasanaeth hwn ac a oes raid i ddefnyddwyr dalu?
Mae'r gwasanaeth ar gael i holl ymatebwyr Categori 1 a 2 fel a ddynodwyd dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Mae'r gwasanaeth am ddim i ymatebwyr Categori 1 ac am bris isel i eraill.
Mae gennym ystod eang o danysgrifwyr ar y system, mae'r rhain yn cynnwys; cwmnïau cyfleustodau, gwasanaethau argyfwng, awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau iechyd. Defnyddiodd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd (LOGOC) y system i fonitro eu hasedau yn ystod y gemau olympaidd.
Pam ddylwn i danysgrifio i'r gwasanaeth hwn?
Mae'r gwasanaeth yn cynnig nifer o fuddion i chi gan gynnwys:
- rhybuddion llifogydd wedi’u targedu ar gyfer asedau penodol - mae gan danysgrifwyr fynediad sydyn a hawdd at yr wybodaeth sy’n berthnasol iddynt
- gwybodaeth ddigidol - gellir rheoli rhybuddion llifogydd ar-lein a gallwch gael mynediad at wybodaeth arall megis mapiau a manylion cyswllt allweddol
- mapiau - gallwch edrych ar yr asedau yn erbyn ardaloedd risg llifogydd (map llifogydd) a rhybuddion llifogydd
- ymateb i lifogydd - gall rhybuddion llifogydd wedi’u targedu eich helpu i reoli cynlluniau ymateb i lifogydd a thargedu adnoddau gwerthfawr
Sut ydw i’n tanysgrifio i'r gwasanaeth hwn?
Gallwch danysgrifio drwy ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd ar 03708 506 506 neu gysylltu â’ch tîm Atal Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd. Byddwn angen i chi wedyn gwblhau cytundeb mynediad a gwneud taliad os yw hynny’n briodol.