Os ydych chi’n cynhyrchu, cludo neu dderbyn gwastraff peryglus cewch eich rheoleiddio gan y Rheoliadau Gwastraff Peryglus.
Diweddariad - Awst 2011
Mae gweithredu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig wedi dwyn rhai newidiadau yn ei sgil i’r Rheoliadau Gwastraff Peryglus. Daethpwyd â’r newidiadau hyn i rym gan Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 a Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.
Rhestrir y newidiadau pwysig i sut y rheolir gwastraff peryglus isod a daethant yn effeithiol ar 29 Mawrth 2011:
- Gellir cymysgu gwastraff peryglus dim ond os ydych yn dal caniatâd addas sy’n eich caniatáu i wneud hyn a rhaid i’r gweithgarwch gydymffurfio â Thechnegau Gorau Sydd Ar Gael (BAT).
- Cyflwynwyd priodwedd beryglus newydd (H13 sensiteiddio) a bydd angen ei ddefnyddio wrth asesu gwastraff peryglus.
- Ceir newidiadau i’r gofynion cadw cofnodion, yn arbennig ar gyfer broceriaid.
Daeth y newidiadau canlynol i mewn ar 28 Medi 2011:
- Diwygiwyd y nodyn llwyth a symleiddiwyd y weithdrefn llwythi lluosog.
- Rhaid ystyried yr hierarchaeth wastraff a’i chymhwyso yn nhrefn blaenoriaeth pan drosglwyddir gwastraff peryglus.
- Ar gyfer gwastraff a dderbyniwyd ar neu ar ôl y dyddiad hwn rhaid dilyn gweithdrefnau diwygiedig ar gyfer ffurflenni adrodd derbynwyr.
Gallwch ganfod manylion llawn ynghylch y newidiadau hyn yn y tudalennau gwe canlynol:
Rydym hefyd wedi cydgasglu rhai cwestiynau cyffredin ynghylch y newidiadau i wastraff peryglus o dan y rheoliadau newydd:
Canfyddwch beth yw gwastraff peryglus a darllenwch gyfarwyddyd technegol WM2,er mwyn pennu p’un ai yw eich gwastraff chi’n wastraff peryglus.
Os ydych chi’n cynhyrchu, neu’n rheoli gwastraff peryglus, canfyddwch:
Mae’n bosibl bydd yn rhaid i eiddo yng Nghymru a Lloegr ble bwriedir cynhyrchu neu gadw gwastraff peryglus gofrestru bob blwyddyn (Diweddarwyd – newidiwyd y rheoliadau yn Ebrill 2009).
Rhaid cwblhau nodyn llwyth i fynd gyda gwastraff peryglus pan gaiff ei symud o unrhyw eiddo. Canfyddwch fwy ynghylch gweithdrefnau nodiadau llwyth a rôl y cynhyrchwr, y cludwr a’r derbyniwr.
Rhaid i chi gadw cofnodion penodol ynghylch eich gwastraff peryglus. Canfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud yma.
Os ydych yn derbyn gwastraff peryglus a gynhyrchwyd yn rhyw le arall neu’n adennill/gwaredu eich gwastraff peryglus eich hun, canfyddwch fwy am:
Canfyddwch pa wybodaeth sy’n rhaid i chi ei hanfon i’r cynhyrchwr gwastraff ac i ninnau, gan roi manylion ynghylch symud, gwaredu ac adennill gwastraff.
Darllenwch fwy o wybodaeth ynghylch tirlenwi gwastraff peryglus; datganiadau safbwynt rheoliadol, sy’n rhoi manylion ynghylch ein safbwynt ar bynciau pwysig a’r atebion rydym ni’n galw amdanynt; rhanddirymiadau, ble mae’n rhaid i ffurflen derbyniwr gael ei chwblhau mewn dull gwahanol ar gyfer mathau penodol o wastraff; cwestiynau cyffredin; a phynciau gwastraff peryglus eraill.