Symud gwastraff peryglus

Rhaid i nodyn llwyth gael ei gwblhau er mwyn mynd gyda gwastraff peryglus pan gaiff ei symud o unrhyw eiddo, gan gynnwys eiddo sydd wedi’i eithrio rhag ei gofrestru a symudiadau rhwng eiddo sydd ym meddiant yr un cwmni. Esbonnir eithriadau yn y nodyn llwyth isod.

Mae angen nodyn llwyth gwastraff peryglus hyd yn oed os nad yw daliwr y gwastraff yn newid, sy’n wahanol i ofynion nodyn trosglwyddo dyletswydd o ofal.

Nodiadau a gweithdrefnau llwyth newydd

Ar 28 Medi 2011 cyflwynodd diwygiadau i’r Rheoliadau Gwastraff peryglus newidiadau i’r nodiadau a gweithdrefnau llwyth. Dim ond y nodiadau a gweithdrefnau llwyth newydd sy’n ddilys i’w defnyddio o’r dyddiad hwn.   

Y prif newidiadau yw’r rhain:

  • Un math o nodyn llwyth yn unig sy’n bodoli nawr, a ddefnyddir ar gyfer llwythi sengl a lluosog
  • Newidiwyd y weithdrefn casglu luosog a’i symleiddio, ac
  • Ychwanegwyd datganiad newydd sy’n cadarnhau y cydymffurfir â’r hierarchaeth gwastraff.

Rydym wedi cynhyrchu dogfen ganllaw ddiwygiedig sy’n cyfuno ein dogfennau canllaw blaenorol (HWR03A i HWR03F). Gallwch lawrlwytho nodiadau llwyth newydd o’r dudalen hon a gellir archebu copïau ar bapur.

Sut i gaffael nodiadau llwyth

Gallwch lawrlwytho’r nodiadau llwyth a’r cyfarwyddyd yma.

Neu, os ydych eisiau i ni anfon nodiadau llwyth gwag i chi drwy’r post, gallwch archebu’r pecynnau trwy alw 03708 506 506.  Argreffir pob un o’r nodiadau hyn trwy ddefnyddio copïau aml-liw ar bapur ble nad oes angen carbon (NCR). Am wybodaeth ynghylch y pecynnau a’r costau gweler ein tudalen ynghylch archebu nodiadau llwyth gwastraff peryglus:

Canllaw i nodiadau llwyth

Nodiadau llwyth

Rhestr Cludwyr (gweler y ganllaw ar nodiadau llwyth)