O ble fedra’i gael cyngor pellach ynghylch newidiadau gwastraff peryglus?
Dyma grynodeb o’r newidiadau:
- Cyflwynwyd priodwedd beryglus newydd H13 (Sensiteiddio) ac mae’r hen briodwedd H13 wedi dyfod yn H15 nawr (gwastraff sydd â’r gallu trwy unrhyw ddull, ar ôl ei waredu, o gynhyrchu sylwedd arall, e.e. trwytholch, sy’n meddu ar unrhyw rai o’r priodweddau (H1 i H14). Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio’r priodweddau peryglus hyn wrth asesu eich gwastraff.
- Gwnaethpwyd newidiadau er mwyn symleiddio casgliadau lluosog a rhaid i chi ddefnyddio’r nodyn llwyth safonol wedi’i addasu nawr. Defnyddir yr un nodyn llwyth nawr ar gyfer rowndiau casglu lluosog a chasgliadau sengl.
- Newidiwyd y nodyn llwyth gwastraff peryglus er mwyn iddo gynnwys datganiad yn Rhan D gan yr anfonwr fod yr hierarchaeth gwastraff wedi cael ei hystyried.
- Os ydych yn frocer neu ddeliwr gwastraff yna bydd yn rhaid i chi gadw cofnodion o wastraff peryglus am dair blynedd.
- Gostyngir y gofyn i chi gadw nodiadau llwyth ym mhob safle awdurdodedig ar wahân i safleoedd tirlenwi i bum mlynedd.
- Caniateir i chi gymysgu gwastraff peryglus dim ond os oes gennych ganiatâd amgylcheddol sy’n eich caniatáu i wneud hynny a bydd yn rhaid i chi gydymffurfio â Thechnegau Gorau Sydd Ar Gael (BAT).
Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff Ewropeaidd ddiwygiedig wedi ei gwneud yn ofynnol i ni newid ein deddfwriaeth.
O ganlyniad, felly, cafwyd nifer o newidiadau yn sut rheoleiddir gwastraffau peryglus trwy ddiwygiadau i Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005 a Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005.
Felly, os ydych chi’n cynhyrchu neu reoli gwastraff peryglus, gwiriwch eich bod yn gyfarwydd â newidiadau i reolau ynghylch gwastraff peryglus.
Diwygiwyd ein cyfarwyddyd technegol WM2 er mwyn egluro beth yw H13 a sut gallwch chi asesu eich gwastraff. Gallwch ganfod WM2 ar ein tudalen gwe 'Beth yw gwastraff peryglus?' :
Nifer fach iawn o wastraffau fydd â H13 fel eu hunig briodwedd beryglus felly nid ydym yn disgwyl cynnydd mawr mewn gwastraffau sy’n cael eu dosbarthu fel rhai peryglus. Gall rhai gwastraffau gludiog fod â H13 fel eu hunig briodwedd beryglus.
Bydd casgliadau lluosog yn parhau ond symleiddiwyd y nodyn llwyth a chaiff nodyn llwyth safonol wedi’i addasu ei ddefnyddio ar gyfer casgliadau lluosog a sengl.
Mae’n rhaid i gludwr gwblhau llwyth safonol ar gyfer bob cwsmer ar gyfer bob safle ar y rownd. Rhaid i rif rownd a rhif casgliad gael eu cwblhau yn natganiad y cludwr ar y nodyn llwyth.
Pan fydd y cludwr yn cyrraedd safle’r derbyniwr, bydd angen i’r derbyniwr, yn ogystal, ddatgan faint o gasgliadau a dderbyniwyd a oeddent yn y rownd casglu.
Bydd ffurflenni chwarterol y derbynwyr yn cynnwys rhif y rownd a rhif y casgliad ar gyfer bob cwsmer yn y rownd.
Gallwch ganfod cyfarwyddyd ynghylch sut i wneud rownd casglu luosog ar ein gwefan:
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r weithdrefn newydd nawr oherwydd daeth hon yn orfodol ar 28 Medi 2011.
Rydym wedi cynhyrchu ffurflenni adrodd derbynwyr newydd electronig a phapur sy’n caniatáu i’r gofynion newydd hyn gael eu cofnodi ac sy’n darparu cyfarwyddyd ynghylch sut i gwblhau’r ffurflenni. Gallwch ganfod y dogfennau newydd hyn ar y dudalen ganlynol:
Oherwydd daeth defnyddio’r nodyn llwyth wedi’i addasu ar ei wedd newydd yn ofyn cyfreithiol ar 28 Medi 2011, byddwn yn disgwyl i ffurflenni ar gyfer gwastraff a dderbyniwyd o 1 Hydref gynnwys y priodweddau peryglus newydd a/neu fanylion rownd cludwyr ar gyfer llwythi.
Mae hierarchaeth gwastraff o bum cam sy’n ofyn pwysig yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig. Mae’n berthnasol i unrhyw un sy’n cynhyrchu neu’n rheoli gwastraff. Oni bai fod rheswm da’n bodoli i beidio â gwneud hynny, dylid rheoli unrhyw wastraff, yn nhrefn blaenoriaeth, trwy ei:
1. Atal
2. Paratoi i’w ailddefnyddio
3. Ailgylchu
4. Dulliau eraill o adennill (er enghraifft adennill ynni)
5. Gwaredu
Wrth gwblhau nodyn llwyth rhaid i anfonwr arwyddo’r datganiad yn Rhan D er mwyn dangos eich bod wedi ystyried yr hierarchaeth cyn trosglwyddo eich gwastraff.
Wrth gwblhau nodyn llwyth rhaid i anfonwr arwyddo’r datganiad yn Rhan D er mwyn dangos eich bod wedi ystyried yr hierarchaeth cyn trosglwyddo eich gwastraff.
Mae llawer o ffynonellau cyfarwyddyd ynghylch sut i gymhwyso’r hierarchaeth gwastraff i wastraff, y bydd rhai ohonynt ar gael cyn bo hir ar wefan Defra neu ar wefan y Rhaglen Gweithredu Adnoddau Gwastraff (WRAP):
Rhaid i unrhyw un sy’n cymysgu neu wanhau gwastraff peryglus ddal caniatâd amgylcheddol addas a bydd yn rhaid i unrhyw waith cymysgu gydymffurfio â BAT. Bydd pob caniatâd newydd yn cynnwys amod sy’n gweithredu’r gofyn hwn.
Mae’r gweithrediadau hynny sydd wedi’u hawdurdodi dan Atal a Rheoleiddio Llygredd Integredig (IPPC) yn berchen eisoes ar y gofyn hwn ond cafodd ei gymhwyso yn awr i bob caniatâd. Cymhwysir y ddarpariaeth hon i ganiatadau newydd yn unig a roddir ar ôl 29 Mawrth 2011 ac i ganiatadau sy’n bodoli eisoes ar eu harolwg cyntaf.
Ar dudalennau gwastraff peryglus ein gwefan:
Teleffon: 03708 506 506
neu anfonwch e-bost i: