Gwastraff adeiladu

Rydym yn gweithio gyda’r llywodraeth, diwydiant a sefydliadau eraill er mwyn gwella effeithlonrwydd adnoddau.

Gall rheoli safle’n well leihau effeithiau amgylcheddol ar y safle ac oddi arno. Gall deall y risgiau a berir gan weithgareddau adeiladu a chymryd camau er mwyn lleihau digwyddiadau helpu i gwtogi ar gostau a gwella enw da busnes.


Dyletswydd o Ofal

Mae’r Ddyletswydd o Ofal yn ddeddf sy’n dweud bod yn rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol er mwyn cadw gwastraff yn ddiogel. Os ydych yn rhoi gwastraff i rywun arall, rhaid i chi fod yn sicr eu bod wedi’u hawdurdodi i’w gymryd ac y gallant ei gludo, ailgylchu neu ei waredu’n ddiogel. Os ydych yn torri’r gyfraith hon, gallwch gael eich dirwyo swm  diderfyn.

Caffael caniatâd i drafod gwastraff

Os ydych yn defnyddio, trin, storio, cludo neu waredu gwastraff yn ystod y broses adeiladu bydd angen i chi ymofyn am ganiatâd oddi wrthym ni er mwyn gwneud y gwaith hwn. Rhoddir caniatâd  ar ffurf eithriad wedi’i gofrestru neu ganiatâd amgylcheddol.

Rydym wedi medru lleihau’r gofynion caniatáu neu eithrio ar gyfer rhai gweithgareddau adeiladu penodol. Mae’r rhain yn cynnwys rhai gweithgareddau penodol sy’n defnyddio naddion ffordd, dŵr golchi concrid, clai, bentonit a phibellau asbestos.

Rydym, yn ogystal, wedi datblygu dull risg isel o fynd ati i reoleiddio gweithgareddau adeiladu penodol gan gynnwys:

  • adennill gwastraff anweithiol trwy adael ffordd yn y fan a’r lle
  • storio plastrfwrdd gwastraff dros dro
  • ailddefnyddio dyfroedd golchi concrid, dyfroedd golchi lleidiog a silt
  • disbyddu golchion sment
  • taenu gwastraff o adeiladu pyllau
  • cynhyrchu blociau cob a storio bitwmen diberygl

Gwastraff fel adnodd

Mae’r Rhaglen Gweithredu ar Adnoddau Gwastraff (WRAP) wedi cynhyrchu cyfres o arfau, templedi a chyfarwyddyd er mwyn helpu i reoli gwastraff ac annog effeithlonrwydd ar safleoedd adeiladu:

Safleoedd tir llwyd

Rydym yn annog adfer tir llwyd a defnyddio prosiectau clwstwr - symud pridd ar a rhwng safleoedd er mwyn lleihau faint ohono a anfonir i safleoedd tirlenwi.

Fel rheolyddion, mae angen i ni sicrhau fod mesurau yn eu lle er mwyn gwarchod yr amgylchedd ac iechyd pobl. Mae ein canllawiau rheoliadol yn cefnogi’r cod arfer Tir Wedi’i Halogi: ceisiadau mewn amgylcheddau gwirioneddol (CL:AIRE CoP), sydd, mewn  amgylchiadau penodol,  os dilynir nhw’n gywir, yn golygu nad oes angen ystyried defnyddiau sy’n deillio o safle fel gwastraff.

Ailddefnyddio gwastraff

Er mwyn lleihau faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi, ceir cyfres o eithriadau a chaniatadau sy’n berthnasol i ddefnyddio, trin, gwaredu a storio gwastraff. Gellir ailddefnyddio sawl defnydd a ddefnyddir mewn gwaith adeiladu gydag eithriad. Rhaid caffael caniatadau ac eithriadau cyn gwneud y gweithgarwch. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • brics, concrid, cerrig ac agregau wedi’u malu er mwyn creu bwnd sŵn o amgylch datblygiad newydd ac yna defnyddio pridd er mwyn creu tirwedd arno a galluogi glaswellt i dyfu
  • naddion ffordd a rwbel er mwyn adeiladu llwybr, ffordd neu faes parcio
  • sglodion pren er mwyn adeiladu llwybr, llwybr troed neu lwybr ceffyl
  • dod â phridd o ddatblygiad arall i’w ddefnyddio er mwyn creu tirwedd mewn datblygiad tai
  • Mwy o wybodaeth ar eithriadau gwastraff
  • Caniatáu trin symudol

Protocolau ansawdd

Trwy weithio mewn partneriaeth gyda WRAP a diwydiant rydym wedi datblygu nifer o brotocolau ansawdd sy’n helpu i nodi pwynt pryd mae gwastraffau wedi’u hadennill yn ddigonol ac nid oes angen eu rheoli mwyach gan ddeddfwriaeth gwastraff. Mae llawer o’r rhain yn berthnasol i’r diwydiant adeiladu.