Astudiaeth achos ar ddŵr

Mae ffermio yn un o sectorau'r economi sydd fwyaf agored i effeithiau'r tywydd ac i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae ffermwyr yng Nghymru ac yn Lloegr yn ymbaratoi ar gyfer gaeafau gwlypach, hafau sychach ac adegau o dywydd eithriadol fel gwres tanbaid neu law trwm iawn.

Wrth i newid yn yr hinsawdd ddechrau cael effaith, bydd y canlyniadau'n cynnwys codi yn lefel y môr, llifogydd amlach a mwy difrifol, a llai o ddŵr yn yr haf i ddyfrhau cnydau. Gall ffermwyr hefyd wynebu'r posibilrwydd y bydd mwy o blâu yn goroesi'r gaeaf, mwy o straen gwres ymhlith eu hanifeiliaid a newidiadau yng nghydbwysedd pridd â dŵr.

Ymateb i newid yn yr hinsawdd

Mae Arferion Ffermio Gorau yn archwilio sut gallwch amddiffyn yn erbyn newid yn yr hinsawdd (ac elwa arno weithiau). Mae un adran yn canolbwyntio ar fod yn ddŵr-gall, gan wneud y defnydd gorau o'r hyn sy'n dod yn adnodd prin yn rhai rhannau o'r wlad.

Mae un arall yn archwilio sut i ymladd yn erbyn y cynnydd yn y risg o lifogydd. Mae trydedd adran yn archwilio sut gallwch arbed ynni a lleihau gwastraff – sy'n orfodol wrth i brisiau tanwydd a thrydan godi a bod cymdeithas yn cael trafferth torri allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Arbed dŵr, torri costau

Dylai defnydd effeithlon ar ddŵr fod yn rhan o strategaeth reoli pob ffermwr.  Mae datblygu cynllun gweithredudŵr-gall’ yn arbed dŵr ac yn lleihau'r risg o lygredd ac yn gostwng costau.

Gellir arbed dŵr yn gymharol gyflym trwy newid trefniadau golchi. Mae gostwng casgliadau llaeth i bob yn ail ddiwrnod yn haneru faint o ddŵr sy'n cael ei ddefnyddio i lanhau swmp danciau. Gall dŵr golchi llysiau gael ei ailddefnyddio ar gyfer dyfrhau. Gall dŵr a gesglir o doeau gael ei ddefnyddio i olchi, yn ddŵr yfed ar gyfer anifeiliaid neu ddyfrhau, tra gall dŵr daear a dŵr wyneb gael eu defnyddio at ddibenion helaeth.

Storio dros y gaeaf ar gyfer dyfrhau yn ystod yr haf

Efallai bod modd dyfrhau yn ystod y misoedd sychach gan ddefnyddio dŵr sydd wedi'i storio trwy echdynnu dŵr yn ystod y gaeaf a thrwy law. Un ffermwr sy'n gwneud hyn yw Robert Smith, sy'n tyfu llysiau o'r ansawdd gorau ar 800 hectar o briddoedd tywodlyd lôm, ysgafn, yn Swydd Caergrawnt.

Mae Robert yn gweithio gyda ffermydd cyfagos i adeiladu cronfa ddŵr 500,000m³ (110 miliwn galwyn). Bydd y gronfa ddŵr, sy'n cael ei llenwi gyda glaw'r gaeaf, yn bwydo 24km o brif bibellau dosbarthu tanddaearol i ategu dyfrhau'r haf ar hyd at 18 fferm.

Yn ogystal â sicrhau'r cyflenwad dŵr, bydd y gronfa ddŵr yn rhyddhau 3,000 hectar arall o dir ar gyfer cynhyrchu sydd wedi'i ddyfrhau. Bydd hefyd yn caniatáu am gylchdroeon hirach ac i helpu i leihau'r defnydd o blaleiddiaid.