Egluro ynni niwclear ac ymbelydredd

Dysgwch am y gorsafoedd ynni niwclear presennol, y gorsafoedd ynni niwclear newydd arfaethedig, a gwastraff ymbelydrol.

Mae ynni niwclear wedi bod yn rhan o gymysgedd ynni'r DU ers pum degawd. Ar hyn o bryd mae 10 gorsaf ynni ledled Cymru, Lloegr a'r Alban yn cyflenwi hyd at 18 y cant o'r trydan a gynhyrchir yn y DU. Erbyn 2025 bydd pob un ond un o'r gorsafoedd ynni hyn wedi'u cau wrth iddynt gyrraedd diwedd eu cylch oes disgwyliedig.