Beth y gallwch chi ei wneud

Gall eich cyfraniadau wella a hyd yn oed weddnewid mentrau rydym yn ymwneud â hwy. Rydym am ystyried barn pobl yn fwy wrth wneud penderfyniadau, felly rydym yn ceisio ymgynghori mewn ffordd sy'n eich helpu chi i'n helpu ni.

Rydym yn adolygu'r trwyddedau a roddwn i safleoedd niwclear bob pedair i bum mlynedd. Rydym yn ymgynghori â'r cyhoedd a llawer o sefydliadau eraill i geisio eu barn pan fyddwn yn gwneud hyn. Rydym hefyd yn ymgynghori ag ystod eang o grwpiau pan fydd safle niwclear yn gwneud cais am drwydded newydd.

Fel arfer mae'r ymgyngoriadau'n para am dri mis ac rydym yn eu hysbysebu mewn papurau newydd lleol.

  • Gwybodaeth am ddigwyddiadau ac ymgyngoriadau niwclear

Gorsafoedd ynni niwclear newydd

Mae deall a gwrando ar farn pobl leol yn bwysig iawn. Byddwn yn gweithio gyda phobl leol mor gynnar â phosibl er mwyn deall eu pryderon, eu diddordebau a'u blaenoriaethau. Credwn y bydd ein penderfyniadau'n gryfach o ganlyniad i'r gwaith ymgysylltu hwn.

Trwyddedu amgylcheddol ar gyfer gorsafoedd ynni niwclear newydd

Rydym yn gyfrifol am drwyddedau amgylcheddol allweddol yn ymwneud ag adeiladu a gweithredu gorsafoedd ynni niwclear a hefyd am 'ddatblygiadau cysylltiedig' perthnasol megis llety i weithwyr a chyfleusterau 'parcio a theithio'.

Bydd yn rhaid i unrhyw gwmni sydd am adeiladu a gweithredu gorsaf ynni niwclear newydd wneud cais i ni am ystod o drwyddedau, gan gynnwys y rhai ar gyfer gollyngiadau ymbelydrol, gollyngiadau dŵr oeri a gweithredu generaduron wrth gefn.

Byddwn yn penderfynu a ddylid cyhoeddi'r trwyddedau a pha amodau y dylid eu cymhwyso.

Byddwn yn ymgynghori â'r cyhoedd ar y ceisiadau rydym yn eu cael ar gyfer trwyddedau gweithredol a'n penderfyniadau arfaethedig ynghylch trwyddedau gweithredol.

Unwaith y caiff y ceisiadau eu hasesu fel rhai a gyflwynwyd yn briodol byddwn yn ymgynghori arnynt am 30 diwrnod. Unwaith y byddwn wedi ystyried yr holl sylwadau a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriadau cychwynnol hyn byddwn yn llunio barn ar ein cynigion arfaethedig ac yn ymgynghori ar y rhain am gyfnod o 12 wythnos. Dim ond pan fyddwn wedi ystyried pob ymateb a gawn yn ofalus y byddwn yn gwneud ein penderfyniadau terfynol.

Asesiad o Gynlluniau Cyffredinol (ACC) mewn perthynas â dau gynllun gorsaf ynni niwclear newydd

Yn 2007 gwnaethom ni a'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ddechrau cydweithio ar broses newydd a ddatblygwyd gennym i asesu cynlluniau ar gyfer gorsafoedd ynni niwclear. Rydym yn galw'r broses hon yn 'Asesu Cynlluniau Cyffredinol' (ACC).

Mae ACC yn rhoi cyfle i ni asesu a nodi unrhyw broblemau posibl gyda'r cynlluniau ar gam cynnar fel y gellir mynd i'r afael â'r rhain yn effeithiol ac yn effeithlon.

Mae dau gam i'r ACC: asesiad cychwynnol ac asesiad manwl. Gwnaethom gyhoeddi ein canfyddiadau o'r asesiad rhagarweiniol ym mis Mawrth 2008 ac ymgynghori arnynt. Dechreuodd yr asesiad manwl ym mis Mehefin 2008. Gwnaethom ymgynghori ar ein canfyddiadau rhwng mis Mehefin 2010 a mis Hydref 2010. Gobeithio bod y wybodaeth a roddwyd a'r camau a gymerwyd yn dderbyniol i chi.

O ystyried daeargryn Sendai a'r digwyddiadau dilynol yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima gwnaethom ehangu ein hasesiad fel y gallem ystyried y gwersi a ddysgwyd o Fukushima yn ein hasesiadau o'r cynlluniau.

Rydym bellach wedi asesu'r ddau gynllun - EPR™ EDF/Areva ac AP1000® a gynlluniwyd gan Westinghouse Electric Company ac wedi cyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad.

Gwerthuswyd ein hymgynghoriad ar y broses o Asesu Cynlluniau Cyffredinol yn annibynnol. Mae'r adroddiad ar gael ar y wefan ‘Shared Practice’