Gelwir prosiectau mawr sy’n lleihau’r risg o lifogydd ac erydu arfordiroedd yn 'brif gynlluniau'. Dysgwch am y math o waith mae hyn yn ei olygu a phwy fydd yn ei wneud.
Types of work undertaken
Prosiectau mawr yw cynlluniau cyfalaf sy'n lleihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Mae'n arferol iddynt wario dros £250,000 ac maent yn cynnwys llunio, gwella neu adfer asedau llifogydd ac erydu arfordirol rydyn ni neu awdurdodau rheoli perygl eraill, megis awdurdodau lleol a byrddau draenio mewnol, yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.
Gall cyflawni gwaith ar gynlluniau adfer asedau i'w cyflwr cychwynnol, newid safon presennol gwasanaeth ased amddiffyn rhag llifogyndd neu greu ased newydd. Mae gwaith sy'n 'Adfer Cyflwr Asedau sy'n Dirywio' yn gwario llai na £250,000. Gwaith cynnil yw, sy'n adfer neu'n disodli asedau amddiffyn rhag llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd sydd islaw safonau derbyniol yn ôl ein harolygon.
Pa wybodaeth a ddarperir gan y map?
Mae pedwar tab gwahanol sy’n rhoi gwybodaeth am gynlluniau rheoli'r pergyl o lifogydd ac erydu arfordirol, gan ddibynnu ar statws y cynlluniau hynny.
- Polygon neu bwynt gwyrdd: mae gan gynlluniau gronfa wrth gefn yn 2012/13, y mae Bwrdd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi clustnodi cymhorthdal Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ar eu cyfer ac sydd wedi ei gymeradwyo gan Bwyllgorau Rhanbarthol Llifogydd a’r Arfordir (RFCC). Mae disgwyl iddynt gwblhau’r gwaith yn ôl y proffil cyllido dangosol a roddwyd ar gyfer 2013/14 a thu hwnt. Noder bod y symiau a ddangosir ar gyfer cynlluniau sydd â chronfa wrth gefn yn 2012/13 yn ymwneud â chostau'r cynlluniau sydd wedi eu llawn gymeradwyo ac sydd felly'n cynnwys treuliau annisgwyl. Bydd grant a delir mewn gwirionedd yn cael ei gadarnhau ar sail cynllun wrth gynllun. O ran cynlluniau Awdurdodau Lleol a Byrddau Draenio Mewnol, bydd taliadau yn cydymffurfio â rheolau Adran y Cymunedau a’r Llywodraeth Leol (DCLG) ar gyfer dyrannu arian.
- Polygon neu bwynt ambr: nid yw cynlluniau'n cael eu hariannu yn 2012/13 ond bydd ganddynt gyllid dangosol o 2013/14. Bydd cadarnhad o gyllid ac amseriad yn dibynnu ar ddatblygiad canlyniadau, costau a threfniadau partneriaethau, wedi eu hystyried yng nghyswllt blaenoriaethu cenedlaethol. Mae cynlluniau/prosiectau sy'n cychwyn ar ôl 2012/13 wedi eu blaenoriaethu'n genedlaethol (gan ddefnyddio'r Sgôr Cyllido Partneriaethau) i ddangos pryd y bydd y cynlluniau hyn yn debygol o gychwyn. Bydd y penderfyniad terfynol ar gyfer pob cynllun, fodd bynnag, yn dibynnu ar gaffaeladwyedd Grant Amddiffyn rhag Llifogydd er Budd (FDGiA) ac adolygiad blynyddol o flaenoriaethu cenedlaethol.
- Polygon neu bwynt coch: mae ar gynlluniau angen gostyngiad mewn costau, gwell canlyniadau neu gyfraniadau ychwanegol er mwyn bwrw ymlaen o fewn y pum mlynedd nesaf.
Mae'r map yn dangos cynlluniau sy'n bwriadu lleihau'r perygl o lifogydd o afonydd, y môr, dŵr daear a dŵr arwyneb a lleihau'r perygl o erydu arfordirol. Mae gwaith i leihau'r perygl o lifogydd o garthffosydd yn cael ei gyllido ar wahân ac nid yw'n cael ei ddangos ar y map.
Mae'r wybodaeth yn y rhaglenni hyn wedi eu casglu o ddata a ddarparwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol a byrddau draenio mewnol, sydd ganddynt bob un eu cyfrifoldebau rheoli'r perygl o lifogydd a pheryglon arfordirol yn Lloegr.
Cyllid partneriaethau gwrthsefyll llifogydd ac erydu arfordirol
Ym mis Mai 2011, cyflwynodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd bolisi newydd, Cyllid Partneriaethau Gwrthsefyll Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae'r polisi hwn yn disgrifio ffordd newydd o fynd ati i gyllido prosiectau yn Lloegr fydd yn lleihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.