Edrychwch ar ba mor debygol yw llifogydd o’r afonydd a’r môr yn eich ardal chi.
Allwedd deall y map llifogydd
Bwriedir y map a'r wybodaeth gysylltiedig fel arweiniad ac ni all roi manylion ar gyfer eiddo unigol.
1. Gorlifdir
Ardal yw gorlifdir a fyddai fel arfer yn cael ei heffeithio'n naturiol gan lifogydd os bydd afon yn uwch na'u glannau neu os bydd llanw uchel a moroedd stormus yn achosi llifogydd mewn ardaloedd arfordirol.
Ceir dau fath gwahanol o ardal ar y Map Llifogydd. Gellir eu disgrifio fel a ganlyn:
-
Dengys y glas tywyll
ardal y gallai gael ei heffeithio gan lifogydd naill ai o afonydd neu'r môr pe na fyddai unrhyw amddiffyn rhag llifogydd. Gallai'r ardal hon gael ei heffeithio gan lifogydd:
- o'r môr pe bai siawns o 0.5 y cant (1 siawns mewn 200) neu fwy y byddai hyn yn digwydd bob blwyddyn;
- neu o afon pe bai siawns o 1 y cant (1 siawns mewn 100) neu fwy y byddai hyn yn digwydd bob blwyddyn.
(At ddibenion cynllunio a datblygu, mae hyn yn cyfateb i Barth Llifogydd 3, yn Lloegr yn unig.)
- Dengys y glas golau
effaith llifogydd eithafol o afonydd neu o'r môr. Mae’n debygol y caiff yr ardaloedd anghysbell hyn eu heffeithio gan lifogydd mawr gyda siawns hyd at 0.1 y cant (1 siawns mewn 1000) y byddai’n digwydd bob blwyddyn.
(At ddibenion cynllunio a datblygu, mae hyn yn cyfateb i Barth Llifogydd 2, yn Lloegr yn unig.)
Mae'r ddau liw hyn yn dangos maint y gorlifdir naturiol pe na bai unrhyw amddiffynfeydd neu strwythurau gwneud a gwelliannau i sianelau.
- Clear
shows the area where flooding from rivers and the sea is very unlikely. There is less than a 0.1 per cent (1 in 1000) chance of flooding occurring each year. The majority of England and Wales falls within this area.
(For planning and development purposes, this is the same as Flood Zone 1, in England only.)
2. Darpariaethau Amddiffyn rhag Llifogydd
Dengys y llinell borffor
yr holl amddiffynfeydd rhag llifogydd a adeiladwyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf ar gyfer afonydd sydd â siawns o 1 y cant (1 siawns mewn 100) o ddigwydd bob blwyddyn, neu lifogydd o'r môr sydd â siawns o 0.5 y cant (1 siawns mewn 200) o ddigwydd bob blwyddyn, ynghyd â rhai amddiffynfeydd hŷn, ond nid pob un ohonynt, a rhai sy'n amddiffyn rhag llifogydd llai. Ychwanegir amddiffynfeydd nas dangosir ar hyn o bryd yn raddol ynghyd â’r ardaloedd hynny a fydd yn elwa arnynt.
Bydd ardaloedd a ddangosir â
yn elwa ar yr amddiffynfeydd llifogydd os bydd llifogydd afon â siawns o 1 y cant (1 siawns mewn 100) o ddigwydd bob blwyddyn, neu lifogydd o'r môr â siawns o 0.5 y cant (1 siawns mewn 200) o ddigwydd bob blwyddyn. Pe na fyddai'r amddiffynfeydd yno, byddai'r ardaloedd hyn dan lifogydd.
Nid yw amddiffynfeydd rhag llifogydd yn dileu'r siawns o lifogydd yn gyfan gwbl, fodd bynnag, ac mewn tywydd eithafol gall llifogydd fod yn uwch na hwy neu gallant fethu.
Am wybodaeth am amddiffynfeydd llifogydd nas dangosir ar y map eto, cysylltwch â swyddfa leol Asiantaeth yr Amgylchedd.
3. Tebygolrwydd Sylweddol, Cymedrol neu Isel o lifogydd
Seilir ein hasesiad o'r tebygolrwydd o lifogydd o afonydd ac o'r môr ar bresenoldeb ac effaith yr holl amddiffynfeydd rhag llifogydd, lefelau llifogydd a ddaroganir a lefelau tir. Trwy glicio ar y naill neu’r llall o ardaloedd glas y gorlifdir, gallwch weld pa un o’r tri dosbarth uchod (sylweddol, cymedrol neu isel ) sy’n gymwys yno.
4. Rhybuddio rhag Llifogydd
Mae cynlluniau rhybuddio rhag llifogydd wedi'u sefydlu ar gyfer nifer o ardaloedd yr ystyrir eu bod mewn perygl arbennig o lifogydd. Gelwir y rhain yn Ardaloedd Rhybudd Llifogydd. Yn yr ardaloedd hyn, gallwn rybuddio preswylwyr ymlaen llaw pan fydd llifogydd yn debygol o ddigwydd a graddfa'r llifogydd. Rydym hefyd yn cyhoeddi nifer o rhybuddion rhag llifogydd sydd mewn grym ar y safle hwn.
5. Prif afonydd
Mae'r llinell las
yn nodi'r prif afonydd. Nentydd mawr neu afonydd yw'r rhain fel arfer. Mae ein pwerau i wneud gwaith amddiffyn rhag llifogydd wedi'u cyfyngu i brif afonydd yn unig. Yn Lloegr, Defra sy'n penderfynu pa rai yw'r prif afonydd. Gwneir hyn yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.