Mae angen i chi gofrestru eich cwch (rhai â phŵer neu heb bŵer) a phrynu trwydded cwch oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd os ydych eisiau mynd â’ch cwch ar y dyfrffyrdd a reolir gennym ni. Canfyddwch sut i gofrestru a phrynu eich trwydded.
Rhaid i bob cwch ar ein dyfrffyrdd arddangos plât cofrestru cwch dilys drwy’r adeg.
Pa ddyfrffyrdd ydym ni’n eu rheoli
Rydym yn rheoli’r dyfrffyrdd canlynol ar gyfer mordwyo:
- Tafwys heb fod yn llanwol (Pont Cricklade i Teddington)
- Afon Medway rhwng Loc Allington a Rhwystr Leigh (Tonbridge)
- System Great Ouse, gan gynnwys:
- Bedford Ouse islaw Kempston
- Ely Ouse gan gynnwys y Forty Foot islaw Loc Horseway, Old West, Old Bedford a New Bedford (a elwir yn ogystal yn Afon/Draen neu Sianel Lliniaru Hundred Foot )
- Little Ouse (Brandon Creek), Ten Mile, Wissey, Lark a Cam (islaw Loc Bottisham)
- Nene o Northampton i Wisbech
- Stour islaw Brundon, Sudbury (Suffolk)
- Ancholme
- Camlas Black Sluice (a elwir yn ogystal yn South Forty Foot Drain) rhwng Pont Donington a’r Boston Haven
- Welland a Glen
- Camlas Filwrol Frenhinol rhwng Argae West Hythe a Loc Iden
Nyni, yn ogystal, yw’r Awdurdod Harbwr ar gyfer Rye a’r Awdurdod Cadwraeth ar gyfer Moryd Dyfrdwy.
Gallwch, yn syml, gofrestru eich cwch ar y ddyfrffordd ble fyddwch yn defnyddio’ch cwch, neu brynu Trwydded Aur sy’n eich caniatáu i ddefnyddio eich cwch ar holl ddyfrffyrdd Asiantaeth yr Amgylchedd a Dyfrffyrdd Prydain.
Newidiadau i’n gwasanaeth cofrestru cychod
Gwnaethom ychydig o newidiadau i’n gwasanaeth gweinyddu cofrestru cychod. Er mwyn darllen am y newidiadau hyn a sut medrent effeithio arnoch chi, lawrlwythwch ein Dogfen newidiadau i gofrestru (PDF, 93KB)
When you visit Rye Harbour, or for annual mooring, you need to get a licence from the harbour office and pay your harbour dues.
Cysylltwch â ni
Gallwch chi gysylltu â’n tîm cofreftru cychod ar y ffôn 03708 506 506 neu drwy e-bost yn boatreg@environment-agency.gov.uk