Diogelwch dŵr a chychod

Cyn i chi fynd mewn cwch ar ein dyfrffyrdd rhaid i chi gaffael eich Tystysgrif Cynllun Diogelwch Cychod a darllen ein cyngor diogelwch diweddaraf.

Tystysgrif Cynllun Diogelwch Cychod

Rhaid i’r rhan fwyaf o gychod â phŵer ar ddyfrffyrdd Asiantaeth yr Amgylchedd basio arholiad Cynllun Diogelwch Cychod a chario tystysgrif ddilys y Cynllun Diogelwch Cychod.

Er mwyn lawrlwytho’r ganllaw gynhwysfawr i ofynion y Cynllun Diogelwch Cychod, gan gynnwys paratoi ar gyfer yr arholiad, ewch i wefan y Cynllun Diogelwch Cychod:    

Hysbysiadau diogelwch cychod

Y Llawlyfr i Gychwyr

Mae’r Llawlyfr i Gychwyr yn cynnwys ystod gyflawn o negeseuon diogelwch, symbolau rhybudd a gwybodaeth ddefnyddiol arall ar gyfer cychwyr newydd a phrofiadol. Lawrlwythwch eich copi am ddim:

Os hoffech chi i ni bostio copi i chi, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy anfon e-bost i enquiries@environment-agency.gov.uk neu dros y ffôn ar 03708 506 506.