Canŵio

Canfyddwch os oes angen cofrestriad cwch arnoch chi, mynnwch wybodaeth am lefelau afonydd a lawrlwythwch ein canllawiau canŵ.

Os angen cofrestriad cwch arna’i?

Bydd angen cofrestriad cwch arnoch oddi wrth yr awdurdod mordwyo ar gyfer y ddyfrffordd rydych yn dymuno canŵio arni, oni bai eich bod yn aelod Undeb Canŵ-wyr Prydain (BCU)

Pa ddyfrffyrdd ydym ni’n awdurdod mordwyo arnynt?

Ni yw’r awdurdod mordwyo ar gyfer y dyfrffyrdd isod. Os ydych eisiau canŵio arnynt, bydd angen i chi brynu cofrestriad oddi wrthym ni (oni bai eich bod yn aelod o’r BCU):

  • Tafwys heb fod yn llanwol (Pont Cricklade i Teddington)
  • Bedford Ouse islaw Kempston, Bedford
  • Ancholme
  • Nene o Northampton i Wisbech
  • Welland a Glen
  • Little Ouse, Wissey, Lark a Cam (islaw loc Bottisham)
  • Suffolk Stour islaw Brundon, Sudbury
  • Medway islaw Tonbridge

Lefelau afonydd a’r môr

Rydym yn mesur lefelau afonydd a’r môr ar draws Cymru a Lloegr drwy gasglu data o’n gorsafoedd monitro ar hyd yr afonydd a’r arfordir. Gallwch ddefnyddio ein map er mwyn canfod gorsafoedd monitro ar gyfer data ynghylch lefelau cyfredol, normal ac uchaf afonydd mewn ardal ddewisedig:

Am wybodaeth ynghylch lefelau dŵr yn eich afonydd lleol gallwch alw Galwad Afon:

Canllawiau canŵio

Gallwch lawrlwytho ac argraffu ein canllawiau canŵio: