Newid yn yr hinsawdd wedi’i esbonio

Fel rheol, mae’r ymadrodd 'newid yn yr hinsawdd' yn cyfeirio at newidiadau diweddar mewn hinsawdd y sylwyd arnynt ers dechrau’r 1900au.

Nid yw hinsawdd yr un peth â thywydd

Mae hinsawdd yn cyfeirio at y tywydd cyfartalog a geir mewn rhanbarth dros gyfnod hir, yn nodweddiadol 30 mlynedd. Mae hyn yn cynnwys patrymau tymheredd, gwynt a glawiad. Nid yw hinsawdd y Ddaear yn sefydlog, ac mae wedi newid llawer gwaith yn y gorffennol – gelwir hyn yn ‘amrywioldeb naturiol'.

Yr effaith tŷ gwydr

Cedwir y ddaear yn gynnes gan yr effaith tŷ gwydr. Ceir nwyon tŷ gwydr fel deuocsid carbon a methan yn naturiol yn yr atmosffer. Maent yn dal gwres o’r haul a chadw ein planed yn ddigon cynnes i fyw arni. Heb nwyon tŷ gwydr byddai’r Ddaear oddeutu  -18 gradd Celsius.

Effaith pobl ar yr hinsawdd

Ceir cytundeb cyffredinol gwyddonol mai’r unig ddull o esbonio’r codiad diweddar y sylwyd arno yn nhymheredd y byd yw trwy’r codiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a achosir gan weithgareddau dynol.

Ers y chwildro diwydiannol, mae gweithgarwch dynol, yn bennaf llosgi tanwydd ffosil, wedi achosi i gyfeintiau mawr o nwyon tŷ gwydr gael eu rhyddhau i mewn i’r atmosffer. Mae hyn yn cynyddu’r effaith nwy tŷ gwydr ac yn gwthio tymereddau byd-eang i fyny.

Mae tymereddau byd-eang cyfartalog eisoes wedi codi oddeutu un radd  Celsius o’u lefelau cyn-ddiwydiannol, a hyd yn oed pe medrem roi’r gorau i allyrru pob nwy tŷ gwydr yfory, byddent yn parhau i godi gan o leiaf 0.6 gradd bellach. Cyfyngu ar godiad mewn tymheredd i islaw dwy radd yw’r targed a gytunwyd yn rhyngwladol er mwyn osgoi newid peryglus yn yr hinsawdd.

Mae arwyddion clir bod ein byd yn cynhesu. Cawsom dymereddau byd-eang cyfartalog cryn dipyn yn uwch dros y degawd diwethaf, mae haenau iâ a rhewlifoedd yn dadmer ac mae tymereddau dŵr afon cyfartalog yn codi. Dros y byd yn ei gyfanrwydd, cafwyd y ddeng mlynedd boethaf a welwyd erioed i gyd ers 1990.

Sut bydd yr hinsawdd yn newid?

Tra nad yw codiad o ddwy radd mewn tymheredd bydeang cyfartalog yn swnio’n beryglus iawn, bydd yr effeithiau’n rhai llym. Dangosodd y codiad presennol o un radd effeithiau difrifol ar gyfer ein rhanbarthau pegynol a gwladwriaethau ar ynysoedd bach. Mae’r Arctig yn cynhesu oddeutu ddwywaith yn fwy na’r cyfartaledd bydeang ac mae iâ môr yn y rhanbarth wedi gostwng yn drawiadol dros y 30 mlynedd diwethaf. Erbyn hyn mae Antarctica yn colli oddeutu 190 biliwn tunnell o iâ bob blwyddyn. Gallai gwladwriaethau ar ynysoedd bach, gan gynnwys 15 cenedl a geir yn y Môr Tawel, wynebu’r canlyniadau mwyaf ofnadwy a dybryd. Mae pedwar ugain y cant o ynysoedd y Maldives yn gorwedd tair troedfedd neu’n llai uwch ben lefel y môr a gallai’r codiad a ragwelir yn lefel y môr a achosir gan gynhesu bydeang arwain at eu diflaniad yn y pen draw.

Mae effeithiau cynhesu pellach o bedair gradd neu fwy yn debygol o gynnwys gostyngiadau pwysig o ran cynhyrchiant bwyd mewn rhai rhanbarthau, cannoedd o filiynau o bobl heb ddigon o ddŵr, nifer fawr o rywogaethau’n darfod a lefelau môr yn codi gan sawl medr.

Yn y DU, byddwn yn gweld digwyddiadau mwy eithafol, fel llifogydd, stormydd, codiad yn lefel y môr a sychder yn ogystal â gaeafau, gwlypach, cynhesach a hafau poethach, sychach.

Pam fod mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd mor bwysig?

Bydd newid yn yr hinsawdd yn arwain at effeithiau andwyol pwysig ar bobl a bywyd gwyllt, felly mae angen i ni gadw’r difrod i isafswm.

Yn y DU, mae 490,000 o eiddo ar hyn o bryd dan fygythiad pwysig o lifogydd. Os nad ydym yn gwneud mwy er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd, bydd 350,000 eiddo ychwanegol ( sy’n dod i gyfanswm o 830,000) mewn perygl pwysig o lifogydd erbyn 2035 o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

Gallai’r llif afon blynyddol cyfartalog yng Nghymru a Lloegr ostwng gan rhwng 10 a 15 y cant erbyn 2050, gyda 80 y cant yn llai o ddŵr mewn rhai afonydd yn ystod misoedd yr haf.

Bydd costau a risgiau cyffredinol newid yn yr hinsawdd yn gyfwerth â cholli o leiaf bump y cant o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth byd-eang bob blwyddyn. Mewn cyferbyniaeth, gallai’r gost o weithredu - lleihau nwyon tŷ gwydr er mwyn osgoi’r effeithiau gwaethaf o newid yn yr hinsawdd - gael eu cyfyngu i oddeutu dau y cant o GMC byd-eang bob blwyddyn.

Beth sydd angen i ni ei wneud?

Mae’n hanfodol bwysig y gweithredir ar raddfa fyd-eang er mwyn cwtogi ar allyriadau nwyon tŷ gwydr ac er mwyn ymaddasu i’r newidiadau anochel.