Mae Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn bwriadu darparu'r 'Gemau mwyaf gwyrdd erioed' a 'Gemau diogel i bawb'. Rydym yn falch o fod wedi gallu cyfrannu tuag at y ddau ymrwymiad hyn.

Rydym wedi canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
Etifeddiaeth amgylcheddol y Gemau
Rydym wedi gweithio gyda sefydliadau eraill dros nifer o flynyddoedd i sicrhau fod yr amgylchedd yn ac o amgylch y Parc Olympaidd yn elwa o’r Gemau.
Gweithio gyda phartneriaid
Rydym wedi datblygu perthynas weithredol dda gydag ystod o sefydliadau i gefnogi’r Gemau a’u rhinweddau amgylcheddol.
Rheoli’r Afon Tafwys
Rydym yn gyfrifol am lywio ar rannau’r Tafwys heb lanw o St John's Lock ger Lechlade i Teddington Lock, ble daw’r Tafwys yn afon llanw.
Pasiodd y Ffagl Olympaidd i lawr yr afon yn Henley-on-Thames, Hampton a Teddington. Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod traffig yr afon yn dal i lifo yn Eton Dorney ble mae’r rhwyfo’n digwydd.
Ymateb i ddigwyddiadau
Os bydd llifogydd neu helynt amgylcheddol arall yn ystod y Gemau, byddwn yn barod i ymateb. Rydym wedi ymbaratoi trwy lunio cynlluniau argyfwng annisgwyl, sydd wedi eu rhoi ar brawf gennym gyda Fforymau Gwrthsefyll Lleol ac adrannau llywodraeth ganolog, gan gynnwys Swyddfa'r Cabinet. Mae Fforymau Gwrthsefyll Lleol yn dod â chynrychiolwyr o fudiadau cyhoeddus at ei gilydd, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân, awdurdodau lleol a'r Asiantaeth Diogelu Iechyd – yn ogystal â ni. Mae gennym hefyd staff gweithredol ac offer ychwanegol yn barod i’w defnyddio os oes angen