• Hafan
    • News
      • May 2013
        • Profi pridd am ddim yn torri costau ffermwyr ac yn helpu’r amgylchedd

Profi pridd am ddim yn torri costau ffermwyr ac yn helpu’r amgylchedd

03-Aug-2012

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru’n cyflwyno cynllun rhad ac am ddim yr hydref hwn ar draws gogledd Cymru i brofi pridd a fydd yn lleihau costau ffermwyr yn ogystal â bod o fantais i’r amgylchedd.

Mae'r prawf syml yn profi lefel pH a faint o faetholion sydd eisoes yn y pridd. Bydd y mesuriadau’n dangos ansawdd y pridd ac yn helpu'r ffermwr i ganfod faint a'r math o wrtaith y mae’r pridd ei angen.

Drwy ddefnyddio llai o wrtaith neu slyri mae ffermwyr yn gallu lleihau cryn dipyn ar gostau ac, yr un pryd, gynhyrchu mwy o gnydau. Mae hynny hefyd yn annog ennill mwy o bwysau yn eu da byw. 

Mae’r cynllun, sydd erbyn hyn yn ei drydedd flwyddyn ddilynol, yn cael ei gefnogi gan y ddau undeb ffermio yng Nghymru.

Gall ffermwyr arbed arian drwy newid y math o wrtaith maen nhw'n ei ddefnyddio

Dengys arolwg o ffermwyr yng ngogledd Cymru a gymerodd rhan yn y cynllun y llynedd y bydd mwy na thri chwarter [77 y cant] yn arbed arian drwy newid y math o wrtaith maen nhw’n ei ddefnyddio.

Bydd tua saith allan o bob deg o ffermwyr [71 y cant] yn chwalu calch ar eu tir, sy’n helpu addasu asidrwydd y pridd. Bydd bron i ddwy ran o dair [64 y cant] yn defnyddio llai o wrtaith ffosffad, a fydd yn lleihau’r perygl o lygredd. A bydd mwy na dwy ran o bump [44 y cant] yn defnyddio slyri yn lle gwrtaith artiffisial, a bydd hynny’n lleihau costau.

Mae’r cynllun wedi’i anelu at dirfeddianwyr sy’n ffermio agosaf at afonydd ble mae ansawdd y dŵr yn is. Gallai maetholion o wrtaith yn cael eu golchi o dir amaethyddol i mewn i’r dŵr achosi hynny.

Bydd gostwng llai o faetholion i afonydd neu’r môr hefyd yn gwella ansawdd y dŵr, yn helpu twristiaeth ac o les i economi gogledd Cymru.

Dalgylchoedd ble ma profion pridd ar gael eleni

Mae cynllun eleni’n rhedeg o 1 Hydref hyd at 31 Rhagfyr 2012 ac yn cynnwys ffermydd yn y dalgylchoedd canlynol:

  • Camddwr (Gwyddelwern);
  • Cegin (Pentir & Llandegai);
  • Clwyd (Pwllglas & Clawddnewydd);
  • Glanffyddion (Rhuddlan & Dyserth);
  • Hiraethlyn (Eglwysbach);
  • Nug ( Cerrigydrudion);
  • Wen (Chwilog);
  • Goch (Dulas a Llandyfrydog, Môn);
  • Nant Dolfechlas (Rhosesmor);
  • Chwiler (Caerwys); a
  • Bach (Tremeirchion).

Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan ym mhrawf eleni cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar 01248 484173 erbyn diwedd mis Medi.

Meddai Nichola Taylor, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: ‘Mae’r prawf, syml, am ddim yn ein galluogi i weithio allan pH a faint o faetholion sydd mewn caeau unigol fel bod ffermwyr yn gallu cymryd penderfyniadau gwybodus.

‘Golyga hynny eu bod yn gallu gwneud y dewis gorau ar gyfer eu tir a’u da byw a lleihau’u costau.

‘Rydyn ni’n gweithio gyda ffermwyr ledled gogledd Cymru i ganfod atebion syml sy’n eu helpu nhw a’r diwydiant ac sydd, hefyd, yn creu amgylchedd iach.’

Meddai Dafydd Jarrett NFU Cymru: ‘Mae NFU Cymru’n cefnogi profi pridd yn rheolaidd. Dim ond pan gyda’r lefel gywir o faetholion y cewch y tyfiant gorau o laswellt a chnydau.

‘Mae gormod o faetholion nid yn unig yn niweidio’r amgylchedd ond hefyd yn wastraff arian. Gyda phrisiau gwrtaith yn uchel iawn ar hyn o bryd, mae’r cyfle i gael prawf pridd annibynnol am ddim am pH, ffosffad, potash a magnesiwm gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn sicr o fantais i bawb.’

Meddai Rhys Roberts, Undeb Amaethwyr Cymru: ‘Mae profi pridd yn bwysig i ffermwyr, yn enwedig ar adeg anodd pan mae’n bwysig cael cymaint o gnwd ag y gellir a gwario’r lleiaf posibl ar wrteithiau drud.

‘Drwy ganfod pa faetholion sydd eisoes ar gael yn y pridd gellir defnyddio gwrteithiau’n fwy manwl gywir i gael y tyfiant gorau mewn cnydau ac mae pawb ar eu hennill, y ffermwyr a'r amgylchedd ehangach. Byddwn yn annog ffermwyr i fanteisio i’r eithaf ar y cynllun a chael profi eu pridd am ddim.’