Llifogydd o ddŵr wyneb

Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddwyd Map Llifogydd newydd ar gyfer Dŵr Wyneb ar gyfer Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol, Fforymau Gwrthsefyll Lleol ac Awdurdodau Cynllunio Lleol.

Beth sy'n achosi llifogydd o ddŵr wyneb, a phwy sy'n gyfrifol am ei reoli?

Ceir llifogydd o ddŵr wyneb pan nad yw'r system ddraenio leol yn gallu ymdopi â glaw. Mae'n anodd iawn rhagweld ble'n union y bydd llifogydd o ddŵr wyneb, gan eu bod yn dibynnu ar lefelau'r ddaear, faint o law sy'n disgyn, a'r rhwydwaith draeniau lleol.

Mae'r ffaith fod gan awdurdodau lleol a chwmnïau dŵr gyfrifoldebau gwahanol yn golygu nad oedd gennym ddull cyffredin o reoli systemau draenio ardaloedd trefol yn y gorffennol. Roedd Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (2010) yn mynd i'r afael â hyn, gan roi cyfrifoldeb ar Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol i reoli peryglon llifogydd lleol, gan gynnwys dŵr ffo, dŵr daear a llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin (nentydd ac afonydd llai).

Yn ôl Rheoliadau Perygl Llifogydd (2009) mae Awdurdodau Llifogydd Arweiniol Lleol hefyd yn gyfrifol am asesu, mapio a chynllunio ar gyfer peryglon llifogydd lleol. Bydd angen i'r Awdurdodau hyn a'r cwmnïau dŵr weithio mewn partneriaeth i reoli llifogydd o ddŵr wyneb.

Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd rôl Drosolwg Strategol yn Lloegr a rôl Goruchwyliaeth Strategol yng Nghymru ar gyfer pob math o lifogydd. Wrth gyflawni'r rôl hon, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o ddŵr wyneb.

Data newydd ar gael i'n partneriaid

Mae Map Llifogydd newydd ar gyfer Dŵr Wyneb bellach ar gael i Awdurdodau Llifogydd Arweiniol Lleol, Fforymau Gwrthsefyll Lleol ac Awdurdodau Cynllunio Lleol i'w helpu i reoli'r risgiau, ymateb i argyfyngau ac asesu ceisiadau cynllunio.

Mae mapiau gwreiddiol Ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd dŵr wyneb ar gael i Fforymau Gwrthsefyll Lleol ac Awdurdodau Cynllunio Lleol ers mis Gorffennaf 2009. Roedd y map yn fan cychwyn da i ddeall yr ardaloedd eang lle'r oedd llifogydd o ddŵr wyneb yn debygol o achosi problemau.

Y Map Llifogydd ar gyfer Dŵr Wyneb newydd yw'r prif ffynhonnell wybodaeth genedlaethol ar beryglon llifogydd o ddŵr wyneb ar hyn o bryd, gan ei fod yn cynnwys ffordd fwy realistig o gyfleu'r amodau sy'n gallu arwain at lifogydd o ddŵr wyneb. Gan mai mapiau dangosol yw'r ddau, ni ddylid eu defnyddio fel yr unig dystiolaeth wrth asesu risg neu er mwyn gwneud unrhyw benderfyniad cynllunio penodol heb astudiaethau neu dystiolaeth ategol eraill, er enghraifft cofnodion dŵr wyneb hanesyddol.