Beth mae’r mapiau llifogydd o ddŵr wyneb yn ei ddangos a sut y cawsant eu creu?

Rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y Map Llifogydd ar gyfer Dŵr Wyneb newydd a’r Ardaloedd sy'n Dueddol o Ddioddef Llifogydd Dŵr Wyneb, beth maent yn ei ddangos a pham mae angen i chi ddefnyddio'r ddau.

Beth sydd yn y mapiau?

Mae'r map Ardaloedd sy'n Dueddol o Ddioddef Llifogydd Dŵr Wyneb yn dangos yr ardaloedd hynny fesul tri band, o'r rhai sy'n llai tueddol i'r mwyaf tueddol o ddioddef llifogydd. Mae'r Map Llifogydd ar gyfer Dŵr Wyneb yn dangos yr ardaloedd hynny lle byddai disgwyl i ddŵr wyneb lifo neu greu pyllau bach yn sgil glaw trwm. Mae'r ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd wedi'u nodi mewn dau fand, sy'n dangos a) llifogydd o ddŵr wyneb a b) ardaloedd o lifogydd dŵr wyneb dyfnach.

Sut crëwyd data ar gyfer y mapiau?

Cafodd map Ardaloedd sy'n Dueddol o Ddioddef Llifogydd Dŵr Wyneb ei greu gan ddefnyddio dull syml sy'n rhagdybio'r systemau carthffosiaeth a draenio danddaear, a systemau draenio uwchddaearol sy'n orlawn. Mae hynny'n golygu nad yw'r dŵr yn draenio o'r wyneb.

Nid yw effaith adeiladau yn cael ei hystyried. Gan fod eu lleoliad yn gallu effeithio ar sut a ble mae'r dŵr yn symud, dim ond syniad cyffredinol o'r ardaloedd sy'n fwy tebygol o ddioddef llifogydd dŵr daear yn unig a geir yn y map hwn. Mae'n seiliedig ar gawod drom o law sy'n debygol o ddigwydd 1 o bob 200 gwaith mewn unrhyw flwyddyn.

Mae'r Map Llifogydd ar gyfer Dŵr Wyneb yn ffordd well o gyfleu'r ffactorau sy'n achosi llifogydd o ddŵr wyneb na map llifogydd 2009, gan ei fod yn cynnwys:

  • data gwell am ddŵr daear ac wyneb - defnyddio data 'lleol'
  • dangos llif carthffosiaeth - gan ddefnyddio un ffigur 'cenedlaethol'
  • dangos dŵr ymdreiddiol - gan ddefnyddio ffigurau 'cenedlaethol' ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig
  • cyfleu hyd stormydd yn well - gan ddefnyddio un ffigur 'cenedlaethol' 
  • cynnwys adeiladau - gan ddefnyddio data 'lleol'
  • mapiau ar gyfer dau bosibilrwydd o dywydd stormus (1 o bob 30 ac 1 o bob 200 mewn unrhyw flwyddyn)
  • ffigurau bras gwahanol ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig - gan ddefnyddio ffigurau 'cenedlaethol'

Pam mae angen dau fap?

Mae'r Map Llifogydd ar gyfer Dŵr Wyneb newydd yn defnyddio data gwell, ac yn cyfleu darlun mwy realistig o'r amodau sy'n effeithio ar lifogydd. Eto i gyd, mae iddo gyfyngiadau. Y brif broblem yw'r ffaith fod y map wedi defnyddio gallu draenio cyfartalog cenedlaethol - gan na wyddom beth yw'r gallu draenio gwirioneddol ym mhob rhan o Gymru a Lloegr ar hyn o bryd.

Felly, efallai y bydd yr hen fap o ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd dŵr wyneb yn rhoi darlun mwy realistig o hyd a lled llifogydd mewn rhai ardaloedd (yn enwedig lle bo'r gallu draenio yn dipyn is na'r cyfartaledd).

Mae'n bwysig bod Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol yn cydweithio â'u partneriaid er mwyn adolygu, pennu a chofnodi pa ddata llifogydd dŵr wyneb sy'n cyfleu eu hamodau lleol nhw orau. Gwybodaeth y cytunwyd arni'n lleol am ddŵr wyneb yw hyn.

Rydym wedi darparu'r data newydd i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol, Fforymau Gwrthsefyll Lleol ac Awdurdodau Cynllunio Lleol bellach.