Mae ein hasesiad cenedlaethol o fygythiad llifogydd yng Nghymru’n gosod allan graddfa bresennol y bygythiad o du afonydd a’r môr, a’r hyn y mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ei wneud i’w reoli.
Beth y mae'r adroddiad yn ei ddweud wrthym?
Esbonia’r adroddiad hwn sut yr awn i’r afael â bygythiad llifogydd yng Nghymru, gan edrych yn bennaf ar afonydd a’r môr. Y mae’n cynnwys:
- Prif ganfyddiadau Asesiad Perygl Llifogydd Cenedlaethol (APLlC) 2008.
- Achosion llifogydd yng Nghymru, ac amrywiaeth y gwaith rheoli perygl llifogydd sy’n mynd rhagddo.
- Arolwg ar ein fframwaith polisi a strategaeth, a’r cyrff pwysig y gweithiwn â hwy er mwyn amddiffyn pobl ac eiddo rhag llifogydd.
Gosodwyd ein diweddariad APLlC 2008 yn 'Beth sydd yn eich iard gefn chi?' ar y 25ain o Fehefin 2009.
Niferoedd yr adeiladau a'r seilwaith sydd dan fygythiad
Dengys ein hasesiad fod:
- Un o bob chwe adeilad yng Nghymru ym mherygl llifogydd.
- Mae rhagor na 220,000 adeilad tan fygythiad llifogydd môr neu afon yng Nghymru, o ba rai y mae 64,000 tan fygythiad sylweddol.
- Mae 97,000 o’r cyfryw hefyd tan fygythiad llifogydd dŵr wyneb, a 137,000 o adeiladau ychwanegol tan fygythiad llifogydd dŵr wyneb yn unig.
- Gwyddai 57 y cant o’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd bygythiad llifogydd eu bod ym mherygl, ac o’r ganran hon roedd tri o bob pump wedi mynd ati i baratoi at lifogydd.
- Mae pobl yn 47,000 adeilad bellach wedi ymgofrestru ar gyfer ein gwasanaeth Rhybuddion Floodline Uniongyrchol yng Nghymru.
Yn ogystal â darparu gwybodaeth fanylach ynghylch ble mae’r bygythion mwyaf, dengys yr adroddiad fod rhan helaeth o seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus pwysig y genedl mewn ardaloedd perygl llifogydd, hefyd. Mae rhagor nag 80 y cant o orsafoedd pwmpio a gweithfeydd trin dŵr a charthion, er enghraifft, mewn ardaloedd perygl llifogydd, a 67 y cant yn wynebu bygythiad sylweddol.
Lawrlwytho’r adroddiad