Mae ein Cynllun Rheoli Asedau wedi’i ddiweddaru yn esbonio ein hymagwedd at reoli asedau sy’n lleihau’r perygl o lifogydd oherwydd y môr a phrif afonydd.
Bydd rheoli ein hasedau perygl llifogydd yn effeithiol yn sicrhau eu bod mewn cyflwr da, ein bod ni'n gwario arian cyhoeddus yn effeithiol, a bod cartrefi ac eiddo'n cael eu diogelu'n well rhag llifogydd.
Mae ein Cynllun Rheoli Asedau yn disgrifio'r egwyddorion y byddwn ni a'n partneriaid yn eu dilyn i reoli ein hasedau presennol a'r rheiny byddwn yn eu hadeiladu yn y dyfodol.
Trwy ddefnyddio'r cynllun, ein nod yw:
- sicrhau bod ein hasedau sydd mewn ardaloedd â pherygl uchel o lifogydd, yn cael eu cynnal ar y safon ofynnol neu uwch, a'u bod yn cael eu gweithredu’n ddiogel;
- darparu'r gwerth am arian gorau ar gyfer pob punt sy'n cael ei fuddsoddi;
- gwella ansawdd dŵr yr afon a'i gynefinoedd;
- lleihau effaith rheoli perygl llifogydd ar yr amgylchedd.
Mae'r cynllun yn amlinellu sut byddwn yn:
- gweithio gyda'n partneriaid;
- blaenoriaethu cyllid ac adnoddau ar gyfer cynnal ein hasedau;
- cynllunio asedau cadarn, diogel a gwerth am arian gorau;
- datblygu sgiliau ar draws y diwydiant i leihau perygl llifogydd mewn modd diogel ac effeithlon a fydd hefyd o fudd i'r amgylchedd.