Affected counties
Dengys blychau`r tabl isod nifer y siroedd sydd ym mherygl bychan, canolig a mawr ym mhob Rhanbarth o Loegr ac yng Nghymru.
Cliciwch ar enw`r rhanbarth er mwyn gweld rhestr y siroedd sydd ar y raddfa berygl honno.
Sylwch y gallai rhanbarth ymddangos mewn rhagor nag un blwch, gan y gallai siroedd y rhanbarth fod ar wahanol raddfeydd perygl. Edrychwch ar yr holl raddfeydd perygl er mwyn gweld a restrir eich sir chi.
Oni restrir eich sir chi yn na`r blwch bychan, canolig na mawr, yna y mae`r perygl llifogydd yn fychan iawn.
Mae perygl llifogydd yn newid o ddiwrnod i ddiwrnod, felly edrychwch ar y rhagolygon yn rheolaidd er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf, ac edrychwch ar ein tudalen Rhybuddion Llifogydd ni er mwyn gweld a yw rhybuddion llifogydd mewn grym.
Perygl Mawr
Bygythiad sylweddol i fywyd - gweithredwch
- Byddwch eto`n hynod wyliadwrus, a sicrhewch eich bod chi`n cadw golwg ar ragolygon diweddaraf y tywydd
- Peidiwch a theithio oni bo gwir angen, neu gohiriwch deithio, os oes modd yn y byd
- Dilynwch gyngor yr awdurdodau doed a ddelo, a byddwch barod i ganlyn camau argyfwng
- Edrychwch ar y dudalen rhybuddion llifogydd
- Galwch Floodline 0845 988 1188 am yr wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd.
Perygl Cymedrol
Disgwylir llifogydd byddwch barod
- Byddwch eto`n wyliadwrus, a sicrhewch y gallwch gael rhagolygon diweddaraf y tywydd
- Ystyriwch ail-drefnu`ch taith chi. Peidiwch a gyrru na cherdded trwy ddwr llifogydd
- Ystyriwch baratoi at lifogydd, a darparwch o flaen llaw lle bo modd
- Edrychwch ar y dudalen rhybuddion llifogydd
- Galwch Floodline 0845 988 1188 am yr wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd
Bach o Berygl
Llifogydd yn bosibl byddwch ymwybodol
- Byddwch eto`n wyliadwrus, a chadwch olwg ar ragolygon diweddaraf y tywydd.
- Byddwch ymwybodol o`r amgylchiadau, yn enwedig wrth yrru
- Edrychwch ar y dudalen rhybuddion llifogydd
- Galwch Floodline 0845 988 1188 am yr wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd
Fawr Ddim Perygl
Dim angen gweithredu
- Cadwch olwg ar y tywydd