Ni allwn rwystro llifogydd yn gyfan gwbl, ond gallwn leihau peryglon llifogydd. Drwy weithio gyda’n partneriaid a phobl sydd mewn perygl o lifogydd, gallwn gadw eu heffeithiau at leiafswm a lleihau’r difrod maent yn ei achosi.
Nid yw rheoli perygl llifogydd erioed wedi bod mor bwysig
Mae dros 5.5 miliwn darn o eiddo, neu un ym mhob chwech, mewn perygl o lifogydd o bob mathau o lifogydd ar draws Cymru a Lloegr. Mae'r rhagfynegiadau newid hinsawdd UKCP09 diweddaraf yn dangos lefelau'r môr yn codi ac mae stormydd glaw mwyfwy difrifol ac aml yn golygu y bydd perygl llifogydd yn cynyddu.
Gallwn leihau'r tebygrwydd o gael llifogydd drwy reoli systemau tir ac afonydd; drwy adeiladu a chynnal amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol; codi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd drwy'r Map Llifogydd ac annog pobl i gymryd camau i'w hamddiffyn eu hunain a'u heiddo. Rydym hefyd yn lleihau'r difrod y gall llifogydd ei achosi drwy reoli effeithiol ar ddatblygu, cynnig rhybuddion llifogydd a gweithio gyda'r ymatebwyr brys i gynorthwyo'r bobl sydd mewn perygl.