Deall newid hinsawdd, technoleg newydd ac ymchwil. Mae angen pob un o'r rhain arnom i'n helpu i gynllunio sut byddwn yn rheoli llifogydd yn y dyfodol.
P'un a ydyw'n dod o hyd i'r ffordd orau i amddiffyn ardal mewn perygl o lifogydd heb ddifrodi'r amgylchedd lleol, neu'n adeiladu amddiffynfeydd i'ch gwarchod chi'n uniongyrchol, rydym wrthi'n gweithio bob amser i ddiogelu mwy o bobl ac eiddo rhag llifogydd.
Buddsoddi ar gyfer y dyfodol
Mae'r rhagfynegiadau diweddaraf ar newid hinsawdd yn dweud bod llifogydd yn debyg o gynyddu yn y dyfodol. Roedd yr adroddiadau Buddsoddi i'r dyfodol: rheoli peryglon llifogydd ac arfordirol yn Lloegr -strategaeth fuddsoddi dymor hir a Llifogydd Cymru'r Dyfodol: amddiffynfeydd llifogydd yn cyflwyno graddfa’r buddsoddi sydd ei angen i gwrdd â’r her hon dros y 25 mlynedd nesaf.
Disgwyliwn i beryglon llifogydd gynyddu, gyda’r newid mwyaf yn ail hanner y ganrif hon. Mae paratoi yn hanfodol. Bydd y strategaethau buddsoddi tymor hir yn cynorthwyo llunwyr penderfyniadau i osod cynllun gweithredu a phenderfynu ar yr hyn y gallwn ni, fel cymdeithas, ei fforddio i’w ddiogelu a’r raddfa o berygl rydym yn fodlon ei derbyn.
Mae ein hadroddiadau yn defnyddio data o UKCP09, y rhagfynegiadau diweddaraf am effaith newid hinsawdd gan Raglen Effeithiau’r DU. Awgryma’r dystiolaeth fod angen cynnydd cyson er mwyn cynnal y lefelau presennol o amddiffyn yn erbyn cyfraddau uwch o lefel y môr yn codi, erydu’r arfordir a thywydd stormus.
Newid hinsawdd ac UKCP09
UKCP09 yw'r bumed genhedlaeth o senarios newid hinsawdd yr DU sy'n disgrifio sut gall hinsawdd y DU newid yn ystod yr 21 ganrif. Mae gwneud defnydd da ar UKCP09 yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau gwell sydd yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir ac â'r potensial o fod yn fwy cost-effeithiol.
Rhaglen ymchwil wyddonol
I'r fynd i'r afael â'r newidiadau a ddaw yn sgil newid hinsawdd a'n helpu i reoli'r perygl cynyddol o lifogydd mae angen i ni ddatblygu ein gwybodaeth mewn llawer o feysydd: datblygiadau newydd mewn peirianneg, patrymau sy'n ymddangos yn yr ecosystem, newidiadau i'n cymdeithas a'n dulliau byw, a'r ffordd y bydd ein heconomïau yn datblygu. Bydd canlyniadau'r rhaglen ymchwil amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol i gyd yn cynnig tystiolaeth i helpu wrth gynllunio at y dyfodol.