Rhagweld y tywydd a rhybuddio

Mae dweud wrth bobl bod llifogydd ar fin digwydd yn hanfodol, gan ei fod yn rhoi amser iddynt baratoi. Rydym hefyd yn annog y rhai sydd mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd i wneud cynllun llifogydd, fel y byddant yn barod pan ddaw'r rhybudd.

Rhybuddio a hysbysu'r cyhoedd

Un o'n swyddogaethau allweddol yw rhagweld llifogydd a rhybuddio'r cyhoedd.  Rydym hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o lifogydd mewn ardaloedd sydd yn tueddu i'w cael, ac yn argymell fod pobl sy'n byw yno'n gwneud paratoadau ymlaen llaw.

Rydym yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf 24 awr y dydd i fonitro glawiad, lefelau afonydd a chyflwr y môr.  Ynghyd â data am y tywydd ac adroddiadau am y llanw gan y Swyddfa Dywydd, gallwn ddarparu rhagolwg ardal leol am y posibilrwydd o lifogydd a pha mor ddifrifol mae'n debygol o fod.  Mae ein timau gweithredu yn aros ar ddyletswydd i benderfynu pa un o'n hamddiffynfeydd y dylid ei defnyddio a phryd, gan weithio bob awr o'r dydd nes bod y perygl o lifogydd wedi dod i ben.

Rydym yn cyflwyno tri math gwahanol o rybuddion llifogydd - Hysbysiad Llifogydd, Rhybudd Llifogydd a Rhybuddion Llifogydd Difrifol. Rydym yn sicrhau y caiff rhybuddion eu darlledu ar radio a theledu lleol, a gellir cael gwybodaeth hefyd drwy ein gwasanaeth gwybodaeth Llinell Llifogydd (0845 988 1188) neu yn ein gwefan sydd yn cael ei diweddaru bob 15 munud.

Rhybuddio a hysbysu ymatebwyr brys

Yn dilyn llifogydd haf 2007, mae Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Swyddfa Dywydd wedi bod yn chwilio am ffyrdd o gyfuno ein harbenigedd er mwyn cael y darlun mwyaf cyflawn o berygl llifogydd yn genedlaethol, o dywydd sy'n datblygu i'r llifogydd eu hunain.

O ganlyniad i hyn, sefydlwyd Canolfan Rhagweld Llifogydd yn bartneriaeth ar y cyd er mwyn gwella ein gallu i ymateb i lifogydd drwy ddarparu gwasanaethau rhagweld a rhybuddio cenedlaethol i ymatebwyr Categori 1 a Chategori 2. Bydd y ganolfan, sy'n gweithredu 24 awr y dydd, drwy'r flwyddyn, yn rhoi amseroedd cwblhau hirach i ymatebwyr brys a rhagor o wybodaeth a dargedwyd i baratoi ar gyfer llifogydd.  Bydd rhaglen ddatblygu hefyd yn cyflymu gwelliannau i'r technegau rhagweld a gallu'r Ganolfan i ddarparu gwasanaethau newydd.